Psalms 122

Canmol Jerwsalem

Cân yr orymdaith. Salm Dafydd.

1Ro'n i wrth fy modd pan ddwedon nhw wrtho i,
“Gadewch i ni fynd i deml yr Arglwydd.”
2Dyma ni yn sefyll y tu mewn i dy giatiau,
O Jerwsalem!
3Mae Jerwsalem yn ddinas wedi ei hadeiladu,
i bobl ddod at ei gilydd ynddi.
4Mae'r llwythau yn mynd ar bererindod iddi,
ie, llwythau'r Arglwydd.
Mae'n ddyletswydd ar bobl Israel
i roi diolch i'r Arglwydd.
5Dyma ble mae'r llysoedd barn yn eistedd,
llysoedd barn llywodraeth Dafydd.
6Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem:
“Boed i'r rhai sy'n dy garu di lwyddo.
7Boed heddwch y tu mewn i dy waliau,
a diogelwch o fewn dy gaerau.”
8Er mwyn fy mhobl a'm ffrindiau
dw i'n gweddïo am heddwch i ti.
9Er mwyn teml yr Arglwydd ein Duw,
dw i'n gofyn am lwyddiant i ti.
Copyright information for CYM